top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577525
 
Title

Text
Mynediad i Wybodaeth Rhyddid Gwybodaeth
start content

Rhyddid Gwybodaeth

Beth yw'r Cynllun Cyhoeddi?

Mae’r Cynllun Cyhoeddi’n manylu ar yr holl wybodaeth sydd ar gael fel rheol o dan Ryddid Gwybodaeth. Cofiwch edrych arno gan y gall yr wybodaeth rydych yn ei cheisio fod ar gael yn gyhoeddus eisoes.

Sut ydw i’n gofyn am wybodaeth?

E-bostiwch neu ysgrifennwch atom ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr adran hon.

Rhagor o wybodaeth

Yn eich cais, gallwch ofyn am ddogfennau, adroddiadau neu ohebiaeth. Ceisiwch:

  • fod yn fanwl gan roi disgrifiad clir o’r hyn y dylem fod yn chwilio amdano
  • cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad neu eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn er mwyn i ni allu cysylltu â chi os oes angen egluro eich cais
  • nodi os oes arnoch angen y wybodaeth mewn fformat penodol e.e. copi caled neu electronig, print mawr ac ati.

A fydd hyn yn costio?

Os gallwn ni ddarparu’n wybodaeth o fewn 18 awr o amser staff, yna ni fydd angen talu, ond efallai y bydd ffioedd am gostau i ni, fel llungopïo, argraffu, postio a phecynnu, os yw'r ffioedd hyn yn fwy na £10.00. Os codir tâl, bydd cadarnhad o'r taliad sydd i'w wneud yn cael ei roi cyn y bydd y wybodaeth yn cael ei darparu, ac efallai y bydd angen talu cyn darparu’r wybodaeth.

Ymateb i’ch cais

Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw hi’n debygol y bydd oedi, byddwn yn dweud wrthych chi. Efallai y bydd y terfyn amser hwn yn cael ei ymestyn o dro i dro, os oes rhaid ystyried materion cyfreithiol cymhleth, ond fe geisiwn roi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn egluro pam ein bod yn oedi. Byddwn yn ceisio darparu’r wybodaeth i chi cyn gynted â phosibl bob tro.

Gallwn wrthod rhoi’r wybodaeth yr ydych yn ceisio amdani i chi os:

  • Yw darparu’r wybodaeth yn gyfwerth â thros £450 (ar sail 18 awr, yn costio £25 yr awr)
  • Nad yw'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani gennym
  • Yw’r wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf
  • Yw eich cais yn cael ei ystyried yn flinderus neu’n ailadroddus

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Beth sy’n digwydd os nad wyf yn fodlon â’r ymateb rwy’n ei gael?

Os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth y gwnaethoch gais amdani, neu os nad ydych wedi ei derbyn i gyd, mae gweithdrefn gwyno gan y Cyngor ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Os nad ydych yn fodlon a’n hymateb, mae’n rhaid i chi gwyno’n ysgrifenedig o fewn 20 niwrnod o dderbyn ymateb y Cyngor gan roi’r rhesymau dros eich cwyn.

Gallwch un ai e-bostio info-gov.unit@conwy.gov.uk neu ysgrifennu at yr Uned Llywodraethu Gwybodaeth a bydd eich cwyn yn cael ei chyfeirio at uwch swyddog.

Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb, Conwy
LL32 8DU

 

A oes modd i mi gael fy ngwybodaeth bersonol o dan Ryddid Gwybodaeth?

Os oes arnoch eisiau eich gwybodaeth eich hun, mae gennych hawl iddi o dan Ddiogelu Data, yn hytrach na Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r rheolau ar gyfer gwybodaeth bersonol a gwybodaeth nad yw’n bersonol ychydig yn wahanol. Gweler y dudalen "we gwneud cais am eich data".

Dogfennau Cysylltiedig

Deddf Rhyddid Gwybodaeth – Polisi Rheoliadau Amgylcheddol (PDF)

Ffurflen gais Rhyddid Gwybodaeth (ffeil Word)



Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content