Cynlluniwch eich ymweliad
Mae Porth Eirias i’w weld ar Bromenâd Bae Colwyn, sydd 10 munud o’r holl brif gysylltiadau trafnidiaeth. Gallwch ddod o hyd i ni trwy chwilio am ein cod post: LL29 7SP
Yn y Car:
Mae Porth Eirias 0.5 milltir i ffwrdd o’r A55, ac mae’n cymryd tua 2 funud mewn car o’r A55, gan roi mynediad o bob rhan o’r Gogledd Orllewin a thu hwnt ar yr M62/M56.
O Gyffordd 22 yr A55, dilynwch yr arwyddion ar gyfer y promenâd. Trowch i'r chwith ar y promenâd i gyfeiriad Llandrillo-yn-Rhos, ac fe welwch arwyddion am Borth Eirias.
Parcio:
Mae maes parcio Porth Eirias yn faes parcio talu ac arddangos rhwng 6am - 11pm gyda’r dadansoddiad tariff fel a ganlyn:
1 awr £1.50
2 awr £3.00
3 awr £ 4.50
Dros 3 awr £10.00
Nid oes darpariaeth ar gyfer parcio dros nos a gwaherddir parcio rhwng 11pm a 6am.
Ymwelwch â Gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i weld lleoliadau parcio eraill yn yr ardal gyfagos.
Ar y Trên:
Mae Porth Eirias tua 10 munud ar droed o Orsaf Bae Colwyn. Os ydych yn gadael gorsaf Bae Colway, cymerwch i'r chwith a dilynwch y llwybr troed tuag at y promenâd, mae'n mynd i lawr yr allt ychydig ac fe ewch trwy dwnnel i gerddwyr. Unwaith y byddwch ar y promenâd trowch i'r dde a cherdded i gyfeiriad Porth Eirias, a fydd ar lan y môr i'r chwith i chi.
Mae amseroedd trenau a phrisiau ar gael o National Rail: www.nationalrail.co.uk / 03457 48 49 50
Trainline: www.thetrainline.com
Gallwch hefyd wirio statws amser real eich taith yn: https://www.nationalrail.co.uk/service_disruptions/indicator.aspx
Ar y Bws:
Mae Canol Tref Bae Colwyn 10 munud ar droed o Borth Eirias, ac mae gan nifer o wahanol lwybrau bysiau arosfannau ym Mae Colwyn
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i'r opsiwn gorau yn seiliedig ar fan cychwyn eich taith gallwch edrych ar y gwefannau canlynol: