Gwybodaeth am COVID
Eich cadw’n ddiogel
Gorchuddion wyneb
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gisgo gorchudd wyneb tra byddwch yn ymweld â Phorth Eirias. Dim ond yn ein hardaloedd lletygarwch i fwyta ac yfed y cewch dynnu eich gorchudd wyneb. Nid yw gorchuddion wyneb yn angenrheidiol os ydych o dan 12 oed neu wedi eich eithrio am resymau meddygol.
Hylif Diheintio Dwylo
Mae unedau diheintio dwylo ym mhob pwynt mynediad.
Talu digyswllt
Mae talu digyswllt ar gael ym mhob man talu.
Mwy o Lanhau
Mae pob gofod cyhoeddus a phwyntiau cyffwrdd yn cael eu glanhau a’u diheintio’n drylwyr.
Digwyddiadau
os ydych yn dod i ddigwyddiad wedi’i drefnu ymlaen llaw ym Mhorth Eirias, dilynwch y wybodaeth cyn-digwyddiad a gawsoch cyn dod i’r safle.
Awyru
Lle bo’n bosib, bydd ffenestri’n cael eu hagor i gylchredeg yr aer. Mae’n prif system awyru wedi ei rhaglennu i sicrhau fod y mewnlif yn 100% o awyr iach. Oherwydd hyn, efallai bydd y ganolfan ychydig yn oerach na’r arfer, felly rydym yn awgrymu eich bod yn dod â haen ychwanegol rhag ofn.
Diogelwch
Os oes gennych unrhyw un o symptomau coronafeirws neu’n teimlo’n sâl ar ddiwrnod eich ymweliad, peidiwch â dod i mewn i Borth Eirias os gwelwch yn dda. Rydym yn eich cynghori’n daer i ddilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth ar hunan-ynysu.
Rydym hefyd yn gofyn am eich helpu i gadw ein staff a’n gilydd yn ddiogel, cymerwch eich amser, cadwch eich pellter lle bo’n bosib, ac yn bwysicach fyth os oes gennych unrhyw un o symptomau Covid-19, mae’n bwysig iawn nad ydych yn mynychu’r perfformiad / lleoliad.
Sylwer y gall y canllawiau hyn newid wrth i gyfnodau clo gael eu llacio neu eu gweithredu. Diweddarwyd ddiwethaf mis Awst 2021.